'Annheg' bod tad-cu ddim yn cael derbyn brechlyn Covid-19

Mae teulu dyn sydd mewn cartref gofal yn Sir Gâr wedi dweud ei bod hi'n annheg nad yw'n cael derbyn brechiad Covid-19 ar hyn o bryd - gan fod eraill yn y cartref wedi profi'n bositif yn ddiweddar.

Yn ôl Elen Morgan mae ei thad-cu Bryn Evans wedi cael prawf negyddol ddwywaith.

Ond mae'n rhaid mynd 28 heb unrhyw brawf Covid positif yn gysylltiedig â'r cartref cyn bod modd dechrau brechu'r preswylwyr.

Dywedodd Ms Morgan fod y "sefyllfa'n bryder" enfawr i'r teulu, yn enwedig gan fod cyflwr ei thad-cu wedi dirywio dros y misoedd diwethaf oherwydd dementia, a risg nawr y gallai ddal yr haint cyn cael y cyfle i gael brechiad.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud mai dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru maen nhw wrth beidio brechu pobl mewn cartrefi gofal tra bod achosion Covid-19 yn parhau yno.