Sefyllfa Covid-19 Ynys Môn yn 'argyfyngus'
Mae pryder cynyddol fod nifer yr achosion positif o Covid-19 ar gynnydd ar Ynys Môn gyda phrif weithredwr y sir yn dweud fod y sefyllfa yn un "hynod bryderus".
Bythefnos yn ôl y sir oedd â'r nifer isaf o achosion yng Nghymru - erbyn hyn hi sydd â'r bedwaredd raddfa uchaf gyda 141.3 ar gyfer pob 100,000.
Ar Dros Frecwast, dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, bod y sefyllfa yn "argyfyngus".