'Dan ni 'di cael ein prisio allan o'r pentref'
Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi sêl bendith i gynllun fyddai'n gweld yr awdurdod yn benthyg £15m dros chwe blynedd i brynu 100 o dai a'u gosod i bobl leol ar rent fforddiadwy.
Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir, medd Catrin O'Neill, oedd wedi gobeithio prynu tŷ yn Aberdyfi, ble gafodd ei magu.
Ond â chanran helaeth o eiddo'r pentref wedi'u gosod fel llety gwyliau, roedd prisiau yn rhy uchel iddi.
Ac er mae bellach wedi prynu tyddyn mewn llecyn "hyfryd" yng Nghwm Maethlon, mae'n gresynu na fydd ei mab bach yn deffro i'r un olygfa â'i fam, ei nain a'i hen nain.