Rhys Meirion: 'Dwi wedi gohirio hyd at 30 cyngerdd'

Mae'r canwr a'r cyflwynydd Rhys Meirion wedi galw am ailagor theatrau a neuaddau yr un adeg â thafarndai a bwytai.

Mae disgwyl i Lywodraethau Cymru a'r DU gyhoeddi eu hamcanion am leddfu'r cyfyngiadau clo yr wythnos nesaf.

Dywedodd Rhys Meirion wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru ddydd Iau ei fod wedi gohirio hyd at 30 o gyngherddau ers dechrau'r pandemig - sydd bron yn gyflog blwyddyn, meddai.

Ychwanegodd ei fod yn "lwcus" i fod wedi cael gwaith radio a theledu yn y cyfnod hwnnw, ond bod ffrindiau iddo "sy'n dibynnu yn unig ar ganu fel bywoliaeth".