Traed a'r genau: 'Fi'n trio anghofio 'byti'r adeg 'ny'

Mae'r posibilrwydd o weld achos newydd o glwy'r traed a'r genau yn "bryder parhaus" i brif filfeddyg Cymru, 20 mlynedd ers yr argyfwng mawr diwethaf.

Dywedodd yr Athro Christianne Glossop y byddai'n "amhosib anghofio" profiadau erchyll 2001.

Roedd Dylan Morgan yn gweithio i'r gwasanaeth milfeddygol gwladol yn ystod yr epidemig, ac mae'n dweud ei fod yn "trio anghofio" am y golygfeydd ofnadwy a welodd wrth fynd o fferm i fferm yn 2001.