'Llwybr i holl blant cynradd fod 'nôl ganol Mawrth'

Fe allai holl blant oed cynradd a rhai disgyblion uwchradd ddychwelyd i'r ysgol o ddydd Llun, 15 Mawrth os ydy sefyllfa Covid-19 yn parhau i wella, yn ôl cynlluniau Llywodraeth Cymru.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Gwener y bydd y disgyblion ieuengaf yn dychwelyd i'r dosbarth o ddydd Llun ymlaen.

Ond yn ôl Mr Drakeford, os ydy'r rhif R yn aros yn is na 1, mae'n rhagweld y bydd modd cael holl blant cynradd yn ôl i'r ysgol yng nghanol Mawrth, ynghyd â disgyblion uwchradd oedd i fod i sefyll arholiadau eleni.