'Ar yr adeg do'n i'm yn gwybod bo' fi'n disgwyl!'
Pan gafodd Delyth Jones boen yn ei bol, wnaeth hi ddim meddwl llawer am y peth.
Pan aeth y boen yn waeth y bore wedyn bu'n rhaid ffonio ambiwlans, a dyna pryd y sylweddolodd ei bod yn disgwyl babi ac ar fin ei eni.
Wnaeth yr ambiwlans ddim cyrraedd yr ysbyty, ond yn hytrach troi mewn i faes parcio siop Asda ym Mhwllheli.
Bu Delyth yn dweud yr hanes wrth BBC Cymru Fyw.