The National: 'Cyflwyno'r ffeithiau i bobl Cymru'
Ar Ddydd Gŵyl Dewi mae gwasanaeth newyddion cenedlaethol wedi ei lansio yng Nghymru.
Fe fydd y rhan fwyaf o gynnwys The National ar-lein, ond bydd rhai copïau papur yn cael eu gwerthu.
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd un sydd ynghlwm gyda'r fenter, Huw Marshall, y byddai gan y gwasanaeth ryddid yn olygyddol, ac mai'r bwriad ydy "trafod y pynciau... a chyflwyno'r ffeithiau i bobl yng Nghymru".