'Mae 'di bod yn anodd... mae popeth 'di stopio'

Mae gan Carwyn Daniel gyflwr Sbina Bifida. Mae'n cael cymorth gofalwyr, ac wedi byw mewn tŷ ar ben ei hun yn Aberystwyth ers dros ugain mlynedd.

Ond dros y misoedd diwethaf, mae iechyd Carwyn wedi dirywio rhywfaint. Ers 12 wythnos, mae wedi bod yn ei wely 24 awr o'r dydd.

Yn ôl Mencap, sy'n cefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu, mae'r pandemig wedi gwaethygu problem oedd eisoes yn bodoli.