Angharad James: Chwarae yn America yn 'gwireddu breuddwyd'

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Angharad James wedi dweud y bydd hi'n "gwireddu breuddwyd" wrth iddi gytuno i symud i North Carolina Courage o Reading ar ddiwedd y tymor.

Yn ôl James, sy'n 26 oed, mae hi wastad wedi bod eisiau chwarae yn America, ond mae hi'n pwysleisio na fydd symud yno'n effeithio ar ei gyrfa ryngwladol.

Mae North Carolina Courage yn chwarae yng Nghynghrair Cenedlaethol Merched America a bydd James yn gadael Reading ar ôl chwarae i'r clwb ers 2019.

Mae James eisoes wedi ennill 83 o gapiau dros Gymru wrth iddi gadarnhau mai "chwarae dros Gymru yw'r teimlad gorau yn y byd".