Blwyddyn o ystadegau Covid-19 i Lloyd Warburton

Blwyddyn ers iddo ddechrau cyhoeddi ffigyrau am achosion Covid-19 ar ei gyfrif Twitter, mae Lloyd Warburton bellach yn un o'r ystadegwyr mwyaf adnabyddus yng Nghymru ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ag yntau dal ond yn 17 oed, mae ganddo bellach 22,000 o ddilynwyr wrth iddo fwydo gwybodaeth am y pandemig i'r cyhoedd ar ffurff tablau a graffiau.

Mae wedi cymryd amser iddo ddod i arfer â'r sylw, meddai, ond mae'n dweud fod y gwaith wedi dangos bod modd cyflwyno ystadegau a ffigyrau mewn ffordd ddiddorol i bobl.