Disgyblion ysgolion uwchradd yn dychwelyd i'r dosbarth

Mae disgyblion ysgolion uwchradd Cymru wedi dechrau dychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn dilyn cyfnod hir o addysgu o adref.

Mae disgyblion ysgolion uwchradd nad oedd yn blant i weithwyr allweddol wedi bod yn derbyn gwersi ar-lein ers i ysgolion gau ddiwedd Rhagfyr.

Yn ogystal â phellter cymdeithasol mae'r disgyblion hefyd yn gorfod gwisgo mygydau yn y dosbarth a chwblhau prawf Covid sydyn.

Bethan Lewis aeth draw i Ysgol Gyfun Garth Olwg ym Mhontypridd i glywed ymateb rhai o'r disgyblion oedd yn dychwelyd i'r ysgol am y tro cyntaf ers misoedd.