'Protestio wnaeth sicrhau hawliau iaith'

Mae ymgyrchwyr gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder ynghylch deddf newydd allai olygu mwy o gyfyngiadau a chosbau llymach i rai protestwyr.

Dywedodd Mabli Siriol, cadeirydd y mudiad, fod angen gwarchod yr "hawl sylfaenol" hwnnw i wrthdystio, nid yn unig i ymgyrchwyr iaith ond i eraill sy'n brwydro dros faterion fel yr amgylchedd a gwrth-hiliaeth.

Daw hyn yn sgil mesur plismona newydd Llywodraeth y DU, rhywbeth maen nhw'n ei ddweud fydd yn mynd i'r afael "â'r trais sy'n effeithio ar bawb".

Ond mae ASau Cymreig o'r gwrthbleidiau eisoes wedi lleisio'u gwrthwynebiad, gan ddweud ei fod yn amharu ar yr "hawl i brotestio'n heddychlon".