Covid Caergybi: 'Un farwolaeth yn un yn ormod'

Mae Cyngor Ynys Môn yn dweud bod cynnydd mewn achosion o Covid-19 yng Nghaergybi yn bryder, ar ôl i dros hanner achosion y sir ddod o'r ardal yn ddiweddar.

Ar Dros Frecwast, dywedodd arweinydd y Cyngor, Llinos Medi, bod rhaid mynd i'r afael â'r sefyllfa, er nad yw'r niferoedd wedi cyrraedd lefelau'r misoedd blaenorol eto.

Mae'r cyngor eisoes wedi dweud y gallai mesurau lleol i reoli'r haint ddod i rym, "a gallai hyn gynnwys cau ysgolion eto yn ogystal â chyfnod clo lleol".