50 mlynedd ers i Gymru gwblhau Camp Lawn dramor

Wrth i Gymru baratoi am y gêm hollbwysig ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc, mae meddyliau'n troi at y tro diwethaf i'r cochion gipio Camp Lawn dramor - hefyd yn Ffrainc yn 1971.

Ar Dros Frecwast, dywedodd cyn-fewnwr Cymru Syr Gareth Edwards ei fod yn "ffaelu credu" bod 50 o flynyddoedd wedi pasio ers y "diwrnod sbesial" yna ym Mharis.