Beth yw effaith y pandemig ar sgiliau iaith plant?

Wrth i ysgolion ail-afael mewn addysg wyneb yn wyneb, mae 'na boeni'n benodol am effaith y flwyddyn ddiwethaf ar allu rhai plant o gartrefi di-Gymraeg i siarad yr iaith.

Dyna pam fod Theatr Na Nog wedi rhyddhau cyfres o straeon - yn rhad ac am ddim - er mwyn helpu teuluoedd i ail-gydio yn eu Cymraeg. Mwy gan Janet Ebenezer.