'Sa i'n bositif trwy'r amser achos ma' fe'n galed'

Mae Evie, 12, yn gofalu am ei brawd Luke sydd ag anghenion arbennig.

Ond mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gynyddol anodd i'r teulu, gyda gwasanaethau cymorth yn anoddach eu cyrraedd oherwydd y pandemig.

Mae'n golygu bod Evie a'i mam, Charlotte, yn gorfod cydbwyso edrych ar ôl Luke gyda gweithio o adref a chwblhau gwaith ysgol.