Wyn Jones yn gobeithio am ffafr Chwe Gwlad gan Yr Alban

Mae prop Cymru, Wyn Jones yn gobeithio am ffafr gan yr Albanwyr nos Wener wrth iddyn nhw herio Ffrainc yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Mae'n cyfaddef bod y garfan yn "siomedig" na lwyddon nhw i gipio'r bencampwriaeth na'r Gamp Lawn eu hunain yn y golled hwyr i Les Bleus y penwythnos diwethaf.

Ond bydd Cymru dal yn ennill y tlws os nad yw Ffrainc yn trechu'r Albanwyr o 20 pwynt neu fwy ym Mharis.

Cafodd y gêm honno ei haildrefnu wedi i'r ornest wreiddiol gael ei gohirio oherwydd achosion Covid-19 yng ngharfan y Ffrancwyr.