'Ni'n croesawu pobl yn dychwelyd, ond byddwch yn gyfrifol'

Mae Tegryn Jones yn dweud y bydd yn "croesawu" gweld ymwelwyr yn dychwelyd i Sir Benfro, ond bod angen iddyn nhw fod yn "gyfrifol" o hyd.

Dywedodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro y dylai pobl hefyd gael "cynllun wrth gefn" rhag ofn bod y llefydd maen nhw'n bwriadu ymweld â nhw'n rhy brysur.

Daw hynny wrth i reolau teithio lacio yng Nghymru, gyda phobl yn cael teithio unrhyw le o fewn y wlad.