'Mi fyddwn ni'n neud pethe cyffrous, braf eto'

Ers 1984 mae menter gymunedol yng Ngwynedd yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl leol ag anableddau dysgu.

Mae'r pandemig a blwyddyn o gyfyngiadau wedi costio'n ddrud i Antur Waunfawr - yn ariannol ond hefyd yn emosiynol.

Er hynny mae 'na ddathlu ar ôl agor safle newydd gwerth dros £1m yng nghanol Caernarfon.

Elen Wyn fu'n cael yr hanes.