'Merched yn ganolog i stori'r Pasg'
Mae rhaglen arbennig ar Radio Cymru ddydd Sul yn dathlu'r ferch yn stori'r Pasg.
Yn y rhaglen, bydd tair monolog fer wedi'u hysgrifennu gan Manon Steffan Ros yn archwilio meddyliau a theimladau y tair Mair yn y stori.
"Yn y deunydd crai ei hun, yr hyn ti'n ei ddarllen, mae 'na lot fawr o emosiwn a lot am rôl Mair, mam Iesu, a Mair Magdalen yn enwedig," meddai'r awdures sy'n ymddiddori yn rôl y ferch yn y Testament Newydd.
"Mae merched yn ganolog i'r stori ond dydy hynny ddim yn rhan o'r stori 'dan ni wedi'i gael wrth dyfu i fyny yn sôn am y Pasg. Felly ro'n i'n sicr yn teimlo bod angen unioni'r cam yna, a'n bod ni angen gwybod bod hynny'n rhan o'r stori."
Yn ogystal â thair monolog Manon, sy'n cael eu perfformio gan Heledd Gwyn, bydd perfformiadau gwreiddiol gan Mared Williams a Casi Wyn yn rhan o'r dehongliad hwn o stori'r Pasg.
Bydd Y Ferch A'r Pasg ar Radio Cymru, dydd Sul 4 Ebrill 2021 am 14:00.
Hefyd o ddiddordeb: