Sesiwn Fawr Dolgellau am 'gynnig rhywbeth i'r ffyddloniaid'

Roedd trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau yn teimlo eu bod nhw eisiau "cynnig rhywbeth i'r ffyddloniaid" wrth gynllunio'r ŵyl eleni.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd Arfon Huws, swyddog datblygu Sesiwn Fawr, fod y trefnwyr wedi bod yn "pendroni ers dipyn go lew ynglŷn â be' yn union oedden ni'n mynd i allu 'neud".

Daeth cadarnhad fore Mercher y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn rhithiol eto eleni, oherwydd y pandemig.

Mae cynlluniau iddi ddychwelyd i Ddolgellau ar gyfer ei phen-blwydd yn 30 oed yn 2022.

"Roedden ni'n teimlo bod ni isio cynnig rhywbeth i'r ffyddloniaid - i'r artistiaid, pobl y dre' a phobl sy'n dod yn flynyddol," meddai Mr Huws.

Roedd cadw at y dyddiad - 16-18 Gorffennaf - yn "rhywbeth eitha' pwysig" hefyd, meddai.