Merched Cymru: 'Ambell newid, ond y grŵp yn gryf'

"Bydd ambell i beth yn newid" pan fydd tîm Merched Cymru yn chwarae dan arweiniad Gemma Grainger am y tro cyntaf yr wythnos hon, meddai'r chwaraewr canol cae, Angharad James.

Dywedodd James bod steil Grainger, gafodd ei phenodi fis diwethaf, wedi dod i'r amlwg ers y sesiwn ymarfer cyntaf.

Ond er hynny, dywedodd James bod y garfan yn gryf ac yn adnabod ei gilydd yn dda, ac felly nad yw hi'n disgwyl newidiadau mawr gan y rheolwr eto.

Bydd Cymru'n herio Canada ar 9 Ebrill am 18:00 cyn wynebu Denmarc ar 13 Ebrill am 19:15.

Bydd modd gwylio'r ddwy gêm yn fyw ar Cymru Fyw.