Senedd 2021: Beth yw addewidion Plaid Cymru

Ddydd Mercher fe gafodd maniffesto Plaid Cymru ei lansio ar gyfer Etholiad Senedd Cymru 2021, ac mae Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, wedi bod yn holi eu harweinydd Adam Price.

Mae hyn yn rhan o gyfres o gyfweliadau gydag arweinyddion pedair o'r pleidiau yng Nghymru cyn y bleidlais ar 6 Mai.

Gofynnodd iddo i ddechrau am yr addewid yn y maniffesto i drawsnewid economi Cymru.