Teyrngedau o'r byd gwleidyddol i Ddug Caeredin

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Ddug Caeredin gan Gymry blaenllaw yn dilyn ei farwolaeth yn 99 oed ddydd Gwener.

Mae'r prif bleidiau yng Nghymru oll wedi dweud y byddan nhw'n atal eu hymgyrchoedd etholiad am y tro.

Cafodd teyrngedau eu rhoi gan arweinwyr prif bleidiau gwleidyddol Cymru ddydd Gwener.