Brwydr mam am gymorth seiciatryddol i blant y gogledd

Mae mam o Flaenau Ffestiniog wedi disgrifio ei brwydr i gael cymorth meddygol i'w mab 11 oed.

Dywedodd Nicola Lewis, sy'n fam i ddau, ei bod wedi gorfod talu miloedd o bunnoedd er mwyn cael asesiad seiciatryddol preifat i'w mab, a hynny ar ôl cael gwybod y byddai'n rhaid aros am ddwy flynedd am asesiad gan y Gwasanaeth Iechyd.

Yn wreiddiol roedd yn fodlon aros am y GIG, ond yn ystod y cyfnod clo y llynedd gofynnodd am help brys, cyn clywed nad oedd seiciatrydd ar gael yn y gogledd.

Trafferthion recriwtio sydd ar fai meddai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gan ddweud bod chwech o'r 14 swydd seiciatrydd ymgynghorol yn wag yn yr ardal.

Er bod y swyddi wedi eu hysbysebu ers tro, nid yw'r bwrdd wedi gallu eu llenwi'n barhaol.

Ychwanegodd y bwrdd eu bod yn cefnogi meddygol profiadol i gwblhau hyfforddiant iechyd meddwl pobl ifanc.