Cerdd Ifor ap Glyn i Opera Cenedlaethol Cymru

Ar 15 Ebrill mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed.

Ar y dyddiad yna yn 1946, fe wnaeth y cwmni ei berfformiad cyntaf.

I nodi'r achlysur, mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi llunio cerddi yn Gymraeg a Saesneg, ac mae'r cwmni wedi creu fideos o'r cerddi.

Mae rhai o leisiau enwocaf Cymru i'w clywed a'u gweld... dyma'r gerdd Gymraeg.