'Cost aruthrol Covid' yn bygwth cau tafarn 300 oed am byth
Wrth i dafarndai ailagor yn Lloegr yr wythnos hon, mae 'na bryderon am gyflwr y diwydiant yng nghefn gwlad Cymru.
Mae wythnos a hanner arall cyn y bydd tafarndai yma yn cael gweini diodydd yn yr awyr agored.
Ond mae un tafarnwr wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod, yn fwy na thebyg, wedi cau am byth.
Mae John Les Thomas yn rhedeg tafarn y Dderwen ger yr Wyddgrug - tafarn sydd yno ers 300 mlynedd.
Dydy hi heb agor ei drysau ers dros flwyddyn ac mae'r perchennog yn amau fyddan nhw'n agor eto.
"Efo rheolau Covid, mae 'na gost aruthrol," meddai.
"Yn anffodus dwi'n meddwl mai'r gwirionedd ydy na wnawn ni ddim [agor]. 'Den ni'n trio ein gorau glas i fedru ailagor.
"Ond dwi'n meddwl, tasen ni'n hollol onest, falle bod ein dyddiau ni, ar ôl 300 mlynedd, wedi dod i ben."
Mae John yn cytuno â mwyafrif penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y pandemig.
Ond mae'n ofni bod canlyniadau anochel i'r diwydiant.
"Yng nghefn gwlad, lle does gennych chi ond un dafarn d'wedwch, person yn berchen ar un dafarn, mae'r sefyllfa'n fregus dros ben," ychwanegodd Mr Thomas.
"Os 'dech chi'n dafarn annibynnol, dim ond y chi sydd yna ac os ydy pethau'n ddrwg, mae pethau'n ddrwg."