Sut mae'r Ceidwadwyr am dalu am eu 'rhestr siopa faith'?

Ymhlith polisïau allweddol y Ceidwadwyr mae adeiladu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 yng ngogledd Cymru i leihau mannau cyfyng a datblygu'r A40 i hybu'r economi yng Ngorllewin Cymru.

Maent hefyd am adeiladu 100,000 o dai yn ystod y degawd nesaf, gan gynnwys 40,000 o dai cymdeithasol, gyda phob cartref newydd yn garbon niwtral erbyn 2026.

Ond sut fydd y Ceidwadwyr yn talu am y rhestr siopa faith?

Vaughan Roderick fu'n holi Dirprwy Gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tomos Dafydd.