Tiwtoriaid cerdd yn 'arwyr' am barhau gyda gwersi
Mae tiwtoriaid cerdd yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi'u galw'n "arwyr" am sicrhau bod gwersi'n parhau yn ystod cyfnodau clo.
Roedd angen ymateb yn gyflym ar ôl i ysgolion gau, ac am hynny, mae Undeb y Cerddorion wedi canmol y gwaith yn ardaloedd Wrecsam a Sir Ddinbych.
Yn ystod rhai cyfnodau roedd cwmni Cerdd Cydweithredol Wrecsam a Sir Ddinbych yn rhoi bron i 800 o wersi yr wythnos er mwyn sicrhau fod plant a phobl ifanc yr ardal yn parhau i ddatblygu.