Jason Jones yn siarad am y sefyllfa dai yn Llanberis
Er ei fod o'n teimlo'n sicr ei fod yn gwneud y peth iawn er lles ei blant a'r gymuned Gymraeg, mae Jason Jones yn gwingo wrth egluro sut mae'n ceisio osgoi Llanberis rhag troi'n "yr Abersoch nesaf".
Mae'n gweld adlewyrchiad o'i blentyndod ei hun wrth edrych ar ei ddwy ferch fach.
Fel nhw, fe gafodd ei fagu mewn pentref Cymraeg, cyn mynd ymlaen o Ysgol Gynradd Nefyn i Ysgol Uwchradd Botwnnog.
Bellach mae'n credu na fydd pobl leol yn medru fforddio yn Llanberis cyn hir.
Mae'n dweud mai'r cynnydd yn nifer y tai gwyliau a phoblogrwydd gwefannau fel Airbnb sy'n rhannol gyfrifol am y sefyllfa.
Bu'n sôn am ei bryderon wrth BBC Cymru Fyw.