Etholiad mewn pandemig: Faint o ddiddordeb a bwrlwm?

Dydd Mercher oedd y diwrnod llawn olaf o ymgyrchu cyn i bobl Cymru fwrw'u pleidlais yn etholiadau Senedd Cymru.

Ddydd Iau bydd yna gyfle i bobl Cymru - yn 16 oed ac yn hŷn - ethol Aelodau Senedd newydd a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd.

Roedd y cyfnod ymgyrchu'n dra gwahanol i'r arfer eleni oherwydd cyfyngiadau'r pandemig.

Iwan Griffiths fu'n clywed argraffiadau olaf Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar raglen Newyddion S4C nos Fercher.