Jeremy Miles: Ymgyrch Llafur yn un 'bositif a gwladgarol'

Roedd Jeremy Miles, un o aelodau mwyaf blaenllaw Llafur, yn un o'r rhai a lwyddodd i gadw ei sedd, gan wneud hynny yng Nghastell-nedd.

Dywedodd fod y Blaid Lafur wedi cynnal ymgyrch "bositif a gwladgarol", gan ddweud bod hynny wedi talu ar ei ganfed gydag etholwyr.