Ymgyrch i ddiddymu'r Senedd 'wedi marw ar ei din'

Dywed yr Athro Richard Wyn Jones fod canlyniadau'r etholiad eleni wedi bod yn "bleidlais o hyder mewn datganoli".

Mae ymgais rhai pleidiau i ddiddymu'r Senedd wedi "marw ar ei din", meddai'r sylwebydd gwleidyddol ar raglen Etholiad S4C.