'Wrth gael y drafodaeth mae pethau'n gallu newid'

Mae menywod o 15 prifysgol wedi arwyddo llythyr yn galw am bolisi gorfodol ar gyfer delio gyda honiadau o ymosodiadau rhyw mewn sefydliadau addysg uwch.

Mae'r menywod yn dweud bod eu prifysgolion wedi methu â mynd i'r afael gyda'u honiadau nhw o ymosodiadau rhyw.

Ar hyn o bryd nid yw'n orfodol i sefydliadau addysg uwch gael polisi penodol mewn lle i ddelio gyda honiadau o'r fath.

Mae corff Universities UK yn dweud bod "pob prifysgol â pholisïau ac arferion mewn lle".

Dywedodd Tirion Davies, golygydd papur newydd Prifysgol Caerdydd, Gair Rhydd, wrth raglen Dros Frecwast ei bod yn beth da bod y menywod sydd wedi arwyddo'r llythyr wedi bod yn ddigon hyderus i roi eu henwau a rhannu eu profiadau.