'Braint' bod yn gadeirydd benywaidd cyntaf clwb rygbi

Mae Clwb Rygbi Aberystwyth newydd benodi cadeirydd newydd.

Does dim yn anarferol yn hynny, ond am y tro cyntaf yn hanes y clwb, menyw sydd wedi ei phenodi i'r swydd - Nerys Hywel.

Dydy Ms Hywel ddim wedi dechrau'n swyddogol eto, ond pan fydd hi'n dechrau yn ei rôl newydd mae hi'n credu mai hi fydd y cadeirydd benywaidd cyntaf ar unrhyw glwb rygbi yng Nghymru.

Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Gwener ei bod yn gobeithio y bydd hynny'n gosod cynsail i eraill hefyd.