Rheolau ymweliadau cartrefi gofal yn 'greulon'

Fe fydd nifer fawr o berthnasau a ffrindiau'n gallu ymweld ag anwyliaid mewn cartrefi gofal am y tro cyntaf mewn misoedd wrth i gyfyngiadau coronafeirws lacio ddydd Llun.

Hyd yn hyn, dim ond dau ymwelydd penodol oedd yn cael ymweld â phreswylwyr cartrefi gofal dan do dan reolau Llywodraeth Cymru, ond o ddydd Llun bydd unrhyw un yn cael ymweld, fesul dau ar y tro.

Ond mae pryder o hyd gan mai cartrefi gofal unigol sy'n penderfynu i ba raddau y maen nhw'n gallu caniatáu ymweliadau.

Mae gŵr Prydwen Elfed-Owens, Tom, yn byw gyda dementia yng nghartref The Old Deanery yn Llanelwy, ac mae hi wedi disgrifio'r rheolau fel rhai "creulon".