Cwsmer ffodus iawn mewn bwyty Indiaidd

Fe wnaeth aelod o staff tŷ bwyta Indiaidd ym Mangor gamu i'r adwy i achub cwsmer oedd yn tagu ar ei fwyd.

Roedd Jake Snelling yn bwyta korma yn y Bangor Tandoori Restaurant pan ddechreuodd gael trafferth anadlu.

Sylweddolodd Sheakh Nazmul Hasan Rifat fod y sefyllfa'n ddifrifol, ac fe ddefnyddiodd symudiad Heimlich ar Mr Snelling.

Wrth i Mr Snelling ddod at ei hun, fe wnaeth gweddill y cwsmeriaid roi cymeradwyaeth.

Cafodd y cyfan ei weld am gamera cylch cyfyng y tŷ bwyta a'i rannu ar wefannau cymdeithasol.