'Rhaid i rywun fod yn atebol am farwolaethau Covid'
Mae angen i rywun gael eu dal i gyfri' am y "bobl sydd wedi colli eu bywydau heb angen" i Covid-19, meddai teulu un fu farw.
Roedd Gwenda Wright o Gaernarfon yn 66 pan fu farw gyda'r coronafeirws yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Prif Weinidog y DU wedi gwrthod honiadau bod camgymeriadau ei lywodraeth wrth ymateb i'r pandemig wedi achosi degau o filoedd o farwolaethau diangen.
Roedd Boris Johnson yn ymateb i dystiolaeth ymfflamychol ei gyn-brif ymgynghorydd, Dominic Cummings i ddau o bwyllgorau San Steffan ddydd Mercher.
Ond mae teulu Gwenda Wright, mam i dri a nain hoffus, wedi ymateb yn chwyrn i'r hyn wnaeth Mr Cummings ei ddatgelu.
Syrthiodd Ms Wright ar ddiwedd 2020 ac anafu ei choes. Daliodd Covid-19 yn yr ysbyty.
Ddiwedd Chwefror, ar ôl i'w theulu ffarwelio â hi dros Zoom, bu farw.
Roedd hi'n un o wyth o blant, ac mae'r teulu wedi ei ddryllio o'i cholli.
Dywedodd ei nith, Catrin Bolton, fod angen ymchwiliad ar frys i'r ffordd gafodd y pandemig ei reoli gan Lywodraeth y DU ar ddechrau'r argyfwng.
"'Dan ni'n teimlo bod neb yn accountable," meddai Catrin Bolton mewn sgwrs gydag Elen Wyn.
"'Dan ni fel cenedl angen cael atebion - a 'dan ni angen gwybod pam bod pethau ddim wedi gwella rhwng ton un a thon dau - doedd yna ddim gwersi wedi eu dysgu ac mae hynna yn siom nawr i ni fel teulu sydd wedi colli rhywun yn yr ail wave.
"Mae bywydau ASau y Conservatives yn mynd yn eu blaen - ond ddim i ni ac Anti Gwenda."
Ychwanegodd: "Mae'n ofnadwy o drist fod pobl wedi colli eu bywydau heb angen."