Yr unig berson sy'n siarad Cymraeg yn y pentref

Mae'r trigolion parhaol olaf mewn pentref yn Sir Benfro yn dweud bod angen ymateb ar frys i ddiogelu cymunedau arfordirol rhag troi'n gymunedau marw oherwydd ail gartrefi.

Er bod tua 50 o dai ym mhentref Cwm-Yr-Eglwys, yng ngogledd Sir Benfro, dim ond dau dŷ sydd a rhywun yn byw ynddynt drwy gydol y flwyddyn - mae'r gweddill yn dai gwyliau, ar wahan i un, sydd ar werth am £1.3m ar hyn o bryd.

Norman Thomas yw'r unig berson sy'n byw yno ac sy'n siarad Cymraeg.

"Mae'n drist nad yw pobl ifanc Cymraeg yn gallu fforddio y tai yma," meddai, gan bwyntio at y tŷ sydd ar werth am £1.3m.

"Mae hynna'n hurt, a dyle'r llywodraeth wneud rhywbeth i stopo fe, a rhoi siawns i'r locals - does dim siawns 'da nhw nawr.