Cymru neu'r Swistir? Dilema teulu Ruben o Gaernarfon!
Mae bachgen o Gymru yn wynebu penderfyniad anodd yn nhermau pa dîm i'w gefnogi wrth i Gymru herio'r Swistir ym mhencampwriaeth Euro 2020 y penwythnos yma.
Mae gan Ruben Schlegel Evans, 12 oed o Gaernarfon, fam o'r Swistir a thad o Gymru.
Yn ôl Ruben fe fydd yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru ddydd Sadwrn oherwydd bod gan y tîm "players gwell na'r Swistir".