'Hiliaeth dal i fodoli yng Nghymru' medd ymgyrchydd
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi condemnio ymddygiad "ffiaidd" teithwyr ar drên yng Ngheredigion wedi i ddynes ddweud ei bod hi wedi cael ei sarhau yn hiliol.
Dywedodd Rosedona Williams ei bod hi'n teithio rhwng Borth ac Aberystwyth pan gafodd hi ei "sarhau a'i phoenydio" gan grŵp o ddynion a merched.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru mae'r ymgyrchydd Melanie Owen, sydd o Aberystwyth, wedi condemnio'n digwyddiad.
Dywedodd bod angen i bobl gofi mai "nid yn America neu Lloegr yn unig mae pethau fel hyn yn digwydd... mae hiliaeth yn bodoli yma".