Carfan Cymru ar ei ffordd i Baku
Mae carfan bêl-droed Cymru wedi gadael am Baku yn Azerbaijan ar gyfer pencampwriaeth Euro 2020.
Fe fyddan nhw'n chwarae'u gêm gyntaf yn y gystadlaeth yno yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn, 12 Mehefin cyn herio Twrci yno hefyd ar nos Fercher, 16 Mehefin.
Bydd eu gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain ar ddydd Sul, 20 Mehefin.
Y gobaith yw na fyddan nhw'n dychwelyd i Gymru tan 12 Gorffennaf.... y diwrnod wedi'r rownd derfynol!