Neges 'glir' yn erbyn gyrru dan ddylanwad cyffuriau

Mae ymchwil rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru'n awgrymu cynnydd o 50% yn nifer achosion gyrru dan ddylanwad cyffuriau yng Nghymru yn 2020.

Roedd y cynnydd bron yn 90% mewn rhai ardaloedd yn ystod blwyddyn y pandemig, yn ôl ymatebion i gais Rhyddid Gwybodaeth .

Dywed y Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru bod o a'i gydweithwyr wedi dal nifer cynyddol o bobl yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r cynnydd, meddai, yn "rhwystredig" ond mae'n rhybuddio bod plismyn yn patrolio'r ffyrdd er mwyn "tynnu'r trwyddeda' 'na oddi ar bobol" gan mai "ella na dyna'r unig ffordd ma' nhw'n mynd i ddysgu".