Marcio asesiadau 'fel swydd ychwanegol' i athrawon

Mae yna alw am dalu bonws ariannol i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol yn ystod yr haf.

Ysgolion a cholegau fydd yn penderfynu ar raddau TGAU a Safon Uwch eleni, ar ôl i arholiadau gael eu canslo yn sgil y pandemig.

Yn ôl Lisa Williams, a sefydlodd ddeiseb ynghylch y mater, mae'r gwaith marcio, safoni a chymedroli yn faich ychwanegol ar athrawon, ac maen nhw'n haeddu bonws am eu hymdrechion, yn debyg i'r hyn fydd yn digwydd yn Yr Alban.