Cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i fyfyrwyr meddygol
Mae myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa yn y maes meddygol - ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg - yn dweud fod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn gallu bod yn hanfodol ar gyfer lles cleifion.
Yn ôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae yna gynnydd cyson wedi bod yn y rhai sydd am ddilyn cyrsiau meddygol yn y Gymraeg.
Dywedodd un myfyriwr ail flwyddyn, Steffan Gwyn, 20 o bentref Fforest yn Sir Gâr, fod y cyfle i wneud y cwrs yn Gymraeg gyn golygu llawer iddo.