Joe Allen yn barod am 'gêm anoddaf' Cymru hyd yma
Mae Cymru'n paratoi am gêm "hyd yn oed mwy anodd" na'r ddwy ornest gyntaf yn Euro 2020, pan fyddan nhw'n wynebu'r Eidal ddydd Sul.
Dyna ddywedodd y chwaraewr canol cae Joe Allen, wrth baratoi am y gêm grŵp olaf.
Bydd enillydd y gêm yn Rhufain yn gorffen ar frig Grŵp A, ond dywedodd Allen bod y garfan "ddim yn edrych ymlaen gormod", ac yn hytrach yn "cymryd pob gêm fel maen nhw'n dod".