'Pa ysgogiad sydd i dderbyn mastiau ffôn ar eich tir?'

Mae yna rybudd y gall ffermwyr a thirfeddianwyr eraill fod yn amharod i dderbyn mastiau ffôn ar eu tir yn dilyn toriadau rhent sylweddol.

Mae'r gostyngiadau'n dilyn adolygiad gan Lywodraeth y DU o'r Cod Cyfathrebu Electronig - y ddeddfwriaeth sy'n rheoli'r berthynas rhwng cwmnïau sy'n berchen ar fastiau a pherchnogion tir lle maen nhw'n cael eu lleoli.

Dywed yr AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts bod yna le i drafod maint y taliadau rhent ond mae lefel y gostyngiadau'n "annealladwy" ac yn amlygu pa mor rymus yw'r cwmnïau telegyfathrebu mawr.

Mae hi hefyd yn poeni am effaith y sefyllfa mewn ardaloedd gwledig ble mae gwir angen gwella cysylltiadau.