Codi cân a chodi calon mewn cartref gofal yng Nghaernarfon

Er bod y mynd a'r dod arferol mewn cartrefi gofal wedi dod i stop dros y flwyddyn ddiwethaf - ymlaen â'r gan ydy hi yng Nghaernarfon.

Nia Davies Williams ydy'r cerddor preswyl cyntaf i weithio mewn cartref gofal yng Nghymru.

Mae ei gwaith yn hollbwysig i drigolion cartre' dementia Bryn Seiont Newydd, Caernarfon, a dros gyfnod y pandemig, mae wedi bod yn codi cân a chodi calonnau.