Codi pont i gadw cledrau lein y Cambrian ar agor

Mae peirianwyr wedi cwblhau'r gwaith o godi hen bont reilffordd ger Machynlleth fetr yn uwch mewn ymgais i osgoi rhagor o drafferthion oherwydd llifogydd.

Mae'r Bont Ddu dros Afon Dulas yn rhan o Lein y Cambrian ac mae wedi gorfod cau droeon dros y blynyddoedd oherwydd llifogydd.

Fe gostiodd y gwaith £3.6m ac fe gymerodd chwe wythnos i'w gwblhau.

Cafodd y bont ei hailagor ddydd Llun a'r gobaith rŵan y bydd yna wasanaeth rheilffordd mwy dibynadwy o hyn ymlaen rhwng Aberystwyth a Phwllheli, a rhwng Machynlleth a Birmingham.